Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni wedi galw am greu system bwyntiau i ffafrio pobol leol wrth osod tai cymdeithasol.
Ac, yn ôl Robat Gruffudd, mae angen i’r drefn gynllunio ystyried yr iaith Gymraeg ac mae angen i drefi fel Caernarfon gael eu troi’n drefi twf er mwyn hybu’r iaith.
Fe ddaw ei sylwadau mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Golwg ar ôl iddo gyhoeddi ei fod yn rhoi ei wobr o £5,000 am nofel i’r mudiad iaith newydd, Dyfodol i’r Iaith.
Roedd defnydd pob dydd o’r Gymraeg yn bwysicach na statws, meddai: “Beth sy’n bwysig yw iaith yn y gymuned, iaith mewn teulu, mewn byd pop, chwaraeon … rhaid i Dyfodol feddwl yn ehangach ac yn fwy cynhwysfawr.”
Mae’r stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg