Mae Gwasg Gomer wedi gwadu honiadau undeb eu bod yn trin eu staff yn annheg.

Ac maen nhw’n mynnu mai dim ond lleiafrif o’u gweithwyr sydd ar streic hanner diwrnod heddiw.

Ar ôl cyhuddiadau gan undeb Unite o “fwlio” a gorfodi telerau ar weithwyr, mae’r cwmni o Landysul – prif gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg Cymru wedi cyhoeddi datganiad.

Maen nhw’n dweud mai dim ond 23% o’r staff sy’n aelodau o  Unite a bod y gweddill “wedi cefnogi’r cwmni”.

Yn ôl yr undeb roedd y wasg wedi penderfynu ar gyflogau a newidiadau mewn amodau heb drafod gyda’r gweithwyr.

Ceisio sicrhau dyfodol y cwmni a swyddi yw’r nod, meddai’r wasg, sy’n dweud eu bod wedi rhoi codiad cyflog eleni ac yn cynnig amodau da.

Dyma’r datganiad yn llawn

Mae’n anffodus fod aelodaeth Unite wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol yn erbyn Gwasg Gomer.  Mae 23% o’r gweithlu yn aelodau o Unite.  Mae’r 77% sy’n weddill wedi cefnogi’r cwmni yn y cyfnod anodd hwn ac maent yn deall fod telerau ac amodau Gomer yn cymharu’n ffafriol â’r gorau yn y diwydiant ac yn deall yr hyn rydym yn ceisio’i gyflawni sef symud Gwasg Gomer ymlaen i’r dyfodol ac i ddiogelu ein holl swyddi.  Rydym yn cydnabod cynrychiolaeth undeb, ac nid ydym yn trin ein staff yn wahanol.  Rydym yn gwmni teuluol sy’n dymuno’r gorau i’n holl staff ac mae ein hamodau gwaith a buddion yn dyst i hyn.

Mae gan y cwmni un o’r cynlluniau tâl salwch gorau yn y diwydiant, gan dalu 100% ar ddiwrnod 2 a 3, 75% hyd at 6 wythnos ac wedyn 30% hyd at 6 mis.  Daw cynllun yswiriant salwch y cwmni i rym o 6 mis gan dalu 30% tan fod y gweithiwr yn dychwelyd i’r gwaith.  Mae hyn ar adeg pan fod cwmnïau yn y diwydiant yn dychwelyd at dalu tâl salwch statudol sy’n sylweddol is na chynllun salwch Gomer.

Rhoddodd y cwmni 2% o godiad cyflog i staff ym mis Mai ac mae’n barod i roi taliad ychwanegol yn gysylltiedig â pherfformiad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, pan fydd sefyllfa ariannol y cwmni yn gliriach.

Gwnaed buddsoddiad o £3 miliwn mewn peiriant cysodi platiau, gwasg, plygwr a rhwymwr newydd sbon yn ddiweddar iawn.  Gwnaeth y cwmni’r buddsoddiad hwn i sicrhau ei fod ar flaen y gad yn y datblygiadau diweddaraf ym myd argraffu, ac i ddiogelu’r holl swyddi i’r dyfodol.  Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod Gomer yn flaenllaw ym maes technoleg ac yn cynhyrchu gwaith argraffu o safon i’n cwsmeriaid.

Mae’r cyhuddiad o fwlio a harasio wedi’u gwneud gan swyddogion allanol Undeb Unite.  Nid yw’r tîm rheoli wedi derbyn unrhyw honiadau o fwlio neu harasio gan unrhyw weithiwr felly mae’r honiadau yn hollol ddi-sail.  Rydym yn trin ein holl staff yn deg a chyfartal, a byddwn yn delio ag unrhyw enghreifftiau o fwlio o fewn ein dulliau disgyblu.