Mae dau gwmni o Gaerdydd wedi gwneud cais i gael rheoli gwasanaeth teledu lleol, ond does dim un cais wedi dod gan Abertawe.
Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe, Geraint Davies wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan yn dilyn y cyhoeddiad heddiw.
Cafodd wybod y byddai’r gwasanaeth yn cyrraedd 50,000 o bobl yn unig yn y ddinas, oedd yn ei gwneud hi’n annhebygol y byddai unrhyw gwmni’n gwneud cais.
Dywedodd Geraint Davies nad oedd “y cynllun ar gyfer Abertawe ddim yn ddichonadwy o’i gymharu â Chaerdydd”.
“Pe baen nhw wedi cymryd y rhanbarth gyfan o Lanelli i Abertawe i Gastell-nedd Port Talbot, fe fydden nhw wedi cyrraedd 400,000 [o bobl],” meddai wrth y BBC.
“Ond hyd yn oed pe bai’r gynulleidfa i’w chael, dydy hi ddim yn glir a oedd yna achos busnes dichonadwy.
“Gyda dyfodiad YouTube ac amryw lwyfannau cyfryngol, doedd hi ddim yn bosib. Dymunaf bob hwyl i Gaerdydd – doedd dim cyfle gan Abertawe.”
Mae’r llywodraeth yn San Steffan wedi dweud yn y gorffennol fod “gwir alw” am raglenni mwy lleol eu naws, sy’n cynnig arlwy ychydig yn wahanol i’r BBC neu deledu masnachol.
Cafodd 21 o ardaloedd eu henwi ym mis Rhagfyr fel rhai oedd wedi dangos diddordeb sylweddol yn y cynllun, ac Abertawe’n un o’r ardaloedd hynny.
Cadarnhaodd Ofcom fod 57 o geisiadau wedi dod i law erbyn y dyddiad cau ddydd Llun.
Mae’r cwmni technoleg Cube a Bryn Roberts wedi cyflwyno ceisiadau ar gyfer Caerdydd. Mae Cube wedi ennill gwobr Bafta Cymru yn y gorffennol.
Bydd y gorsafoedd newydd yn dechrau darlledu ym mis Medi 2013.