Cimwch afon (David Gerke CCA 3.0)
Mae cimwch afon o Gymru ymhlith y creaduriaid sy’n gorfod dibynnu ar gefnogaeth mewn sŵs er mwyn goroesi.
Mae’n un o’r rhywogaethau sydd wedi eu henwi ar restr argyfwng gan Gymdeithas Sŵs Prydain – mae honno’n cynnwys anifeiliaid fel malwod coed o Polynesia a lemwr llygatddu o Masdagascar.
Mae cimwch yr afon i’w cael mewn rhannau o Loegr ac, yn arbennig, yn afonydd Gwy a Wysg yn ne-ddwyrain Cymru.
Ond, yn ôl y gymdeithas, mae 95% o’r boblogaeth frodorol wedi cael ei dinistrio, yn rhannol am fod cimychiaid afon o’r Unol Daleithiau wedi cael eu cyflwyno i wledydd Prydain.
Erbyn hyn, mae’r cimychiaid yn cael eu magu mewn sŵs a’u gollwng mewn llefydd diogel.