Hofrennydd achub
Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhybuddio ar ôl i dad a dri phlentyn fynd i drafferthion ar lan y môr ym Mhenrhyn Gŵyr.

Roedden nhw wedi cael eu dal gan gerrynt cry’ ym Mae’r Tri Chlogwyn ac fe fu’n rhaid eu cario i Ysbyty Treforys mewn hofrennydd.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, mae angen bod yn wyliadwrus iawn o gerrynt cry’ ac, yn ôl y rheolwr yn Abertawe, David Jones, mae angen rhoi sylw i arwyddion rhybudd a cheisio nofio ar draethau lle mae achubwyr bywyd.

Roedd hofrennydd o RAF Chivenor, cwch achub y Mwmbwls a th0065m achub Gwylwyr y Glannau Oxwich wedi mynd i helpu’r teulu ar ôl i’r fam alw am help.