Mae cwmni Virgin wedi colli’r hawl i redeg trenau rhwng gogledd Cymru a Llundain.

Ac mae pennaeth y cwmni, Richard Branson, wedi ymateb yn chwyrn gan ddweud na fydd yn cynnig am wasanaethau rheilffyrdd yn y dyfydodol.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain mai cwmni FirstGroup sydd wedi ennill y cytundeb i gynnal y gwasanaethau, sy’n rhan o gytundeb lein fawr gorllewin Prydain.

Honno yw’r rheilffordd brysura’ yng ngwledydd Prydain ac un o’r leiniau nwyddau prysura’ yn Ewrop. Mae’r gwasanaeth o Gaergybi ar draws y Gogledd yn ymuno â hi yn Crewe.

Roedd Virgin – cwmni Richard Branson – wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth ers 1997 ond fe fydd FirstGroup yn cymryd y gwaith o fis Rhagfyr ymlaen.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Richard Branson fod y prisiau sy’n cael eu talu yn wirion.