Ardal y datblygiad
Mae’n ymddangos bod y posibilrwydd o sefydlu cwrs rasio ceir rhyngwladol ym Mlaenau’r Cymoedd wedi dod gam yn nes.

Mae’r BBC’n adrodd bod y cwmni y tu cefn i’r cynllun wedi cael digon o gefnogaeth ariannol i fwrw ymlaen ac y byddan nhw’n gwneud cais cynllunio yn ystod y misoedd nesa’.

Y bwriad yw creu prif gwrs rasio ac o leia’ ddau gwrs llai ar y mynydd agored ger Rasau ym Mlaenau Gwent – yn ôl y cwmni, Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, fe fyddai’r cynllun yn creu miloedd o swyddi lleol.

Mae’r datblygwyr wedi bod yn trafod gyda’r cyngor lleol a Llywodraeth Cymru ac mae Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Nick Smith, wedi mynegi’i gefnogaeth.

Mae’r amcangyfrifon answyddogol am gost y ganolfan rasio wedi amrywio rhwng £150 miliwn a £250 miliwn.