Mae bowliwr cyflym Morgannwg, Huw Waters wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r sir, sy’n golygu y bydd yn aros yn Stadiwm Swalec hyd nes 2014.

Roedd yna amheuon a fyddai Waters yn ymestyn ei gytundeb y tu hwnt i’r tymor hwn, ac fe gafodd ganiatâd i gynnal trafodaethau â siroedd eraill.

Y bowliwr 25 oed sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi dros y sir y tymor hwn (36), ar gyfartaledd o 18.36.

Mae’r bowliwr cyflym 22 oed, John Glover hefyd yn aros gyda’r sir tan 2014.

Dwy gêm yn unig y mae’r Cymry wedi eu hennill yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Mae Waters a Glover wedi bod yn arwain y bowlwyr y tymor hwn yn absenoldeb y bowlwyr mwy profiadol, James Harris a Graham Wagg.