John Toshack
Blwyddyn yn unig wedi iddo gymryd yr awenau, mae’r Cymro John Toshack wedi gadael ei swydd fel rheolwr tîm rhyngwladol Macedonia yn dilyn anghydfod â llywydd y gymdeithas bêl-droed yno.

Roedd y llywydd, Ilcho Gjorgjioski, wedi gofyn i John Toshack fyw ym Macedonia ond roedd yntau’n mynnu byw yn Sbaen a theithio oddi yno.

Mae Macedonia yn yr un grŵp â Chymru yn yr ymgyrch ragbrofol i Gwpan y Byd 2014, ac roedd llawer o gyhoeddusrwydd wedi bod ynglyn â’r posibilrwydd y gallai John Toshack wynebu ei famwlad.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, dim ond un gêm enillodd John Toshack – yn erbyn Andorra.

Fe fu John Toshack, 63, yn rheoli Cymru ddwywaith – am lai na deufis yn 1994 ac wedyn am chwe blynedd o 2004 hyd at 2010.

Mae’n gadael ei swydd ddiweddaraf gyda Macedonia yn 102 ar restr detholion FIFA – chwe safle’n is na pan gymerodd reolaeth ar y tîm.