Stadiwm Nantporth
Bydd Stadiwm Nantporth, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, yn cael ei ail-enwi yn Stadiwm The Book People yn dilyn cytundeb newydd â’r cwmni llyfrau lleol.

Yn dilyn y cytundeb dair blynedd, bydd logo’r cwmni hefyd yn ymddangos ar grysau’r dinasyddion.

Bydd amodau’r cytundeb yn dod i rym mewn pryd ar gyfer dechrau tymor newydd Uwchgynghrair Cymru pan fydd Bangor yn croesawu Cei Conna nos Wener.

“Rydym yn croesawu’r bartneriaeth newydd yma gyda’r Book People – busnes sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn yr economi leol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf,” meddai cadeirydd y clwb, Dilwyn Jones.

“Mewn cyfnod anodd i fyd busnes, rydym yn gwerthfawrogi’n arbennig y buddsoddiad gwerthfawr y mae’r Book People yn ei wneud i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, ac yn edrych ymlaen at ad-dalu’r hyder sydd wedi ei ddangos ynom.”

Symud o Ffordd Farrar

Mae gan gwmni The Book People warws a chanolfan gwasanaeth i’r cwsmer ym Mangor ers 2002.

“Mae’r Book People wedi teimlo’n rhan bwysig o’r gymuned erioed ac roeddem yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yr ydym mor falch o fod yn rhan ohoni,” meddai cadeirydd y cwmni, Ted Smart.

Symudodd y clwb pêl-droed o faes hanesyddol Ffordd Farrar, cartref Dinas Bangor ers y 1920au, i’r stadiwm newydd ar lannau’r Afon Menai ym mis Ionawr eleni.