Geraint Thomas ar ei feic
Mae grŵp trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans Cymru wedi galw am rwydwaith ffyrdd seiclo integredig yng Nghymru.
Dywedodd y grŵp y byddai hynny’n sicrhau bod y wlad yn cymryd mantais o lwyddiant seiclwyr y Gemau Olympaidd drwy annog pobol i deithio ar eu beiciau.
Maen nhw’n honni y byddai cynyddu ffitrwydd y genedl yn arbed £500m i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae eu hargymhellion yn rhan o ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru ar y Bil Teithio Llesol (Cymru).
Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys cynigion i’w gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol Cymru:
• nodi a mapio’r rhwydwaith o lwybrau sy’n ddiogel ac yn addas ar gyfer cerdded a beicio yn eu hardaloedd
• nodi a mapio’r gwelliannau y byddai eu hangen i greu rhwydwaith cwbl integredig ar gyfer cerdded a beicio a datblygu rhestr o gynlluniau i greu’r rhwydwaith, yn ôl trefn blaenoriaeth
• darparu gwell rhwydwaith os bydd cyllid ar gael, a chan ddilyn y drefn briodol
• ystyried y posibilrwydd o ddarparu gwell cyfleusterau cerdded a beicio wrth ddatblygu cynlluniau ffyrdd newydd.
Dywedodd Jane Lorimer o Sustrans y byddai’r arian fyddai yn cael ei fuddsoddi yn y rhwydwaith yn annog pobol i seiclo yn aml.
“Dyw’r rhan fwyaf o bobol ddim yn gallu fforddio cymryd rhan mewn seiclo cystadleuol ond rydyn ni’n annog pobol i ddefnyddio beic er mwyn teithio o le i le,” meddai.
“Ond mae pryderon ynglŷn â diogelwch ac ofnau y bydd y daith yn cymryd llawer yn hirach yn eu hatal nhw rhag gwneud hynny.”
Roedd angen bwrw ati i greu rhwydwaith seiclo cyn i “gyffro’r Gemau Olympaidd ddod i ben”.
Roedd yr ymchwil diweddaraf yn awgrymu y byddai annog y Cymry i wneud rhagor o ymarfer corff yn arbed £517m i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros gyfnod o 20 mlynedd.