Cipiodd Rory McIlroy ei ail bencampwriaeth fawr neithiwr drwy ennill yr USPGA yn gyfforddus.

Wrth i’r fflam Olympaidd ddiffodd yn Llundain disgleiriodd y Gwyddel yn Kiawah Island yn yr Unol Daleithiau, gan ennill wyth ergyd o flaen y chwaraewr nesaf ato, David Lynn o Loegr.

Diolch i’w berfformiad cryf mae Lynn, 38, wedi sicrhau lle yn nhim Ewrop ar gyfer y Cwpan Ryder fis nesaf.

Mae Rory McIlroy bellach wedi ennill dwy bencampwriaeth fawr ac yntau ond yn 23.

Tan 2007 doedd dim un Gwyddel wedi ennill un o’r mawrion ym myd golff ers 60 mlynedd, ond ers hynny mae’r Gwyddelod wedi cael hwyl arni – enillodd Padraig Harrington dair pencampwriaeth, a Graeme McDowell a Darren Clarke un yr un, a dwy nawr i McIlroy.

Mae Padraig Harrington yn rhagweld y gall Rory McIlroy guro record Jack Nicklaus o gipio 18 o’r pencampwriaethau mawr.

“Mae ganddo ugain mlynedd arall, efallai pum mlynedd ar hugain,” meddai Harrington, enillydd y PGA yn 2008.