Prifysgol Caerdydd
Mae mudiad sy’n gobeithio y bydd Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r gorau i gynnal arbrofion ar gathod bach wedi casglu 22,000 o enwau ar ddeiseb.

Mae’r Undeb o Blaid Diddymu Bywddyraniad wedi arwain yr ymgyrch ar ôl datgelu beth oedd wedi bod yn digwydd yng Nghaerdydd.

Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi yng Nghylchgrawn Niwrowyddoniaeth Ewrop yn gynharach eleni.

Roedd pedwar gwyddonydd yn y brifysgol wedi bod yn pwytho llygaid y cathod er mwyn deall yn well sut i drin cyflyrau dynol, gan gynnwys Amblyopia – y ‘llygad diog’.

Roedd cathod eraill wedi eu magu mewn tywyllwch llwyr – mewn rhai achosion am hyd at 12 wythnos.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd bod yr ymchwil wedi dod i ben yn 2010. Roedd y gwaith yn cael ei gynnal er mwyn cyd-fynd â chyfyngiadau llym y llywodraeth, medden nhw.

Dim ond pan nad oedd modd gwneud fel arall oedden nhw’n gwneud defnydd o anifeiliaid, meddai llefarydd, ac roedden nhw’n “gwrthod yn llwyr” cyhuddiadau bod yr ymchwil yn greulon.

Daeth yr arfer i sylw’r byd wrth i’r actor Ricky Gervais dynnu sylw at yr ymchwil “afiach” ar ei ffrwd Twitter.

Dywedodd Prif Weithredwr BUAV, Michelle Thew, y dylai Prifysgol Caerdydd ystyried barn y rheini oedd wedi arwyddo’r ddeiseb.

“Mae’r ymchwil wedi ei ariannu ag arian cyhoeddus ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y brifysgol yn nodi teimladau’r cyhoedd ac yn dod â nhw i ben unwaith ac am byth,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.