Y Stadiwm Olympaidd
Mae trefnwyr Gemau Olympaidd Llundain wedi gwrthod dweud a ydyn nhw’n ystyried y bencampwriaeth yn llwyddiant ai peidio.

Dywedodd y trefnwyr Locog mai sylwebwyr y tu allan fyddai yn penderfynu os mai Llundain 2012 oedd y ‘Gemau gorau erioed’.

Mae Gemau Olympaidd Sydney yn 2000 a Gemau Olympaidd Beijing 2008 yn cael eu hystyried ymysg y goreuon ar hyn o bryd.

“Mae’r athletwyr yn hapus, mae’r cymdeithasau rhyngwladol yn hapus. Bydd rhaid i bobol eraill benderfynu lle ydyn ni’n sefyll,” meddai cadeirydd Locog, yr Arglwydd Coe.

“Ond rydw i’n hapus iawn â sut y mae pethau wedi mynd. Ond dydyn ni ddim wedi croesi’r llinell derfyn eto.”

Roedd pryderon mawr am broblem trafnidiaeth, streicio, a seddi gwag ar ddechrau’r gemau, ond fe gafodd pob un ei ddatrys heb ormod o ffwdan.

Pryder arall a fydd yn cael ei drafod yn dilyn y gemau fydd y prinder twristiaid yng nghanol dinas Llundain.

Roedd siopau, gwestai a bwytai canol Llundain yn wag, wrth i’r twristiaid dyrru i safle’r Gemau ychydig filltiroedd i’r dwyrain, yn ôl Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Ewrop.

Dywedodd y gymdeithas fod pen gorllewinol y ddinas, sydd fel arfer yn hynod o brysur, yn “annaearol o wag”.

Roedd Llundain yn denu tua 300,000 o dwristiaid o dramor, a 800,000 o weddill y Deyrnas Unedig, bob blwyddyn, meddai’r Prif Weithredwr, Tom Jenkins.

“Mae’n amlwg bod y bobol yma wedi cael y neges y dylen nhw gadw draw ac wedi gwneud hynny,” meddai.