Fe fydd Lloegr a’r Alban yn arwyddo cytundeb heddiw a fydd yn cyfuno eu timoedd pêl-fasged yn un ‘Tîm GB’ o 2016 ymlaen.
Ond ni fydd y tîm yn cynnwys pob rhan o’r ynys – mae Cymru wedi pleidleisio yn erbyn yr uniad ac wedi penderfynu aros yn annibynnol.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y corff llywodraethol FIBA y bydd y tîm yn cael ei ffurfio er gwaethaf amharodrwydd “negyddol” y Cymry.
“Fe fydd y cytundeb yn cael ei arwyddo heddiw,” meddai.
Mae Cymru, yr Alban a Lloegr wedi bod yn chwarae yn un tîm ers 2006. Roedd hyn yn drefniant dros dro er mwyn sicrhau bod y tîm yn cael lle yng Ngemau Olympaidd Llundain.
Penderfynwyd y llynedd y byddai tîm Prydeinig yn cael cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ar yr amod eu bod nhw’n parhau i chwarae gyda’i gilydd ar ôl i’r gemau ddod i ben.
Ond pan ddaeth y bleidlais dyngedfennol penderfynodd Cymru bleidleisio yn erbyn, gan ddweud nad oedden nhw wedi cael unrhyw fudd o fod yn rhan o’r tîm.
Dywedodd Patrick Baumann ei fod yn parchu pleidlais Cymru, ond yn credu eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad anghywir.
Roedd yn “amhosib atal” Tîm GB o ystyried bod yr Alban a Lloegr yn rheoli rhan mor fawr o’r gêm yn y wlad.
“Mae mwyafrif helaeth, bron a bod un unfrydol wedi dweud eu bod nhw eisiau cynnal tîm Prydeinig,” meddai.
“Rydw i’n meddwl y byddwn ni’n gallu argyhoeddi Cymru i ymuno â’r parti.
“Er gwaethaf y penderfyniad negyddol gan Gymru rydyn ni wedi penderfynu bwrw ymlaen a chreu tîm Prydeinig, am na fydd modd atal y peth yn y pen draw.”
Wrth bleidleisio yn erbyn dywedodd Pêl-fasged Cymru nad oedd unrhyw chwaraewyr o’r wlad wedi cael lle yn y tîm Prydeinig.
Doedden nhw ddim am atal eu chwaraewyr nhw rhag cymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol, medden nhw.