Elfed Roberts
Bu’r Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddiant eleni er gwaethaf y Gemau Olympaidd, a’r dechrau glawog, cyhoeddodd y trefnwyr heddiw.

Datgelwyd brynhawn ‘ma bod 15,007 wedi ymweld â’r maes ar y dydd Sadwrn olaf, gan ddod a’r cyfanswm drwy gydol yr wythnos i 138,76 o ymwelwyr.

Roedd hynny ychydig yn uwch na’r 136,933 ymwelodd â Glyn Ebwy yn 2010, ond yn is na’r 148,892 oedd wedi mynychu’r maes yn Wrecsam y llynedd.

Bu’r Eisteddfod yn ymweld â bro sydd yn cynnwys ymysg y canran isaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac roedd hefyd rhaid iddyn nhw gystadlu â’r Gemau Olympaidd yn Llundain am sylw.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfen Roberts, ei fod yn hapus â nifer yr ymwelwyr.

“O ystyried y tywydd, yr hinsawdd economaidd a’r Gemau Olympaidd rydyn ni’n hapus iawn â ymateb y cyhoedd,” meddai.

“Mae nifer yr ymwelwyr wedi bod yn eithaf da.

“Dim ond ddydd Mawrth oedd nifer yr ymwelwyr yn isel, ac roedd hi’n bwrw glaw yn drwm bryd hynny, ond doedd dim modd i ni wneud unrhyw beth am hynny.”

Nifer yr ymwelwyr

2004 – Casnewydd 2005 – Eryri 2006 – Abertawe 2007 – Sir y Fflint 2008 – Caerdydd 2009 – Meirion 2010 – Glyn Ebwy 2011 – Wrecsam 2012- Bro Morgannwg
Nos Wener 1,011 1,451 3,770 1,009 1,634 1,245 3,136 1,586 2,520
Sadwrn 16,172 15,932 16,565 16,710 17,681 18,216 14,702 17,881 18,207
Sul 14,046 12,759 14,483 13,848 13,072 15,292 25,097 16,794 15,305
Llun 18,080 20,720 20,123 18,608 20,423 19,658 15,461 16,048 16,121
Mawrth 15,142 19,182 18,074 17,463 17,236 18,113 13,363 17,004 13,126
Mercher 22,438 21,343 20,741 23,092 20,952 24,794 16,126 20,898 19,368
Iau 18,771 20,737 19,205 21,089 22,659 23,027 18,096 17,902 20,016
Gwener 24,505 26,307 23,199 23,941 27,873 24,166 17,294 23,428 19,097
Sadwrn 2 15,548 19,389 19,277 19,184 15,167 20,178 13,658 17,351 15,007
Sul 2 2,072
Cyfanswm 147,785 157,820 155,437 154,944 156,697 164,689 136,933 148,892 138,767