Lluniau David Rees Davies
Mae’r artist oedd yn gyfrifol am gynnwys llun o ferch leol a’i llofrudd yn arddangosfa gelf yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymddiheuro.

Daw ymddiheuriad yr artist David Rees Davies ddiwrnod ar ôl i drefnydd yr Eisteddfod, Elfen Roberts, ddweud ei fod yn ddrwg ganddo am unrhyw loes a achoswyd.

Cafodd y lluniau gan yr artist David Rees Davies yn y Lle Celf eu tynnu i lawr ddoe, ond dywedodd teulu Rebecca Oatley na ddylen nhw fod wedi eu dangos o gwbl.

Roedd un o’r delweddau yn dangos Rebecca Oatley, oedd wedi ei lladd llai na 10 milltir o safle maes yr Eisteddfod, â gwaed yn dod o’i phen.

“Hoffwn i gynnig fy ymddiheuriadau dwysaf i’r ddau deulu, yn ogystal â pherthnasau a ffrindiau, am unrhyw ofid yr oeddwn i wedi ei achosi drwy ddangos fy ngwaith yn yr Eisteddfod,” meddai.

“Doeddwn i ddim wedi bwriadu achosi gofid i unrhyw un. Er parch at ddymuniadau’r teulu gofynnais i’r Eisteddfod dynnu pedwar llun i lawr.”

Cuddio’r lluniau

Roedd y trefnwyr wedi mynnu o’r dechrau nad oedden nhw ymwybodol o natur y delweddau cyn iddyn nhw gael eu harddangos.

Dywedodd yr Eisteddfod bod hyd at 350 o artistiaid wedi gwneud cais am le yn y Lle Celf, a bod y panel wedi dewis y 40 ar sail cynnwys weledol y darluniau.

Ddydd Mercher fe gafodd y lluniau eu cuddio dan gynfas, a nodyn ei roi wrth y fynedfa yn rhybuddio ymwelwyr ynglŷn â nhw.

Ddoe cadarnhaodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod y Prif Weithredwr, Elfen Roberts, wedi ymddiheuro i’r teulu.

“Mae Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi dweud ei fod yn ymddiheuro yn bersonol am unrhyw loes calon a achoswyd gan ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf,” meddai llefarydd.

“Dywedodd nad ei fwriad oedd achosi unrhyw boen pellach i’r teulu.”

Daw’r ymddiheuriad wedi i Aelod Seneddol y teulu, Huw Irranca-Davies, ddweud wrth Golwg 360 y dylai’r Eisteddfod ddysgu gwersi o beth ddigwyddodd.

“Rwy’n gobeithio fod yr Eisteddfod yn dysgu gwersi o hyn. Nid mater o sensoriaeth yw e ond mater o roi ystyriaeth i gyd-destun amser a lle,” meddai.

“Mae cyd-destun cymdeithasol gwaith o gelf yn bwysicach na chyfiawnhad artistig neu feirniadol.”

Mae mam Rebecca Oatley wedi galw am ymddiswyddiad pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i ddangos y delweddau.