Hywel Wyn Edwards
Mae Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwrthod yr honiad fod prif wobr lefaru’r brifwyl yn cael ei thrin fel “Sinderela”.

Ddaeth neb i’r llwyfan eleni ar Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ac roedd beirniad a chyn-enillydd, Geraint Lloyd Owen, wedi beirniadu’r eisteddfod yn ganolog am ddangos diffyg parch at lefarwyr.

“Mae pedair cystadleuaeth ‘Rhuban Glas’ yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn ola’r eisteddfod – i’r cantorion, y llefarwyr, y cerdd-dantwyr a’r alawon gwerin,” meddai Hywel Wyn Edwards.

“Mae amseriad pob un ar y llwyfan yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.”