Elfed Roberts
Mae’n rhaid i stondinwyr fod yn fwy cyfrifol ar y Maes, yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ddiwedd wythnos lle mae nifer o stondinau wedi profi lladradau, mae Elfed Roberts yn dweud ei fod yn “methu deall” pam fod stondinwyr yn cadw arian yn eu pebyll dros nos.

“Ers 2008, pan gawson ni ladron ar y Maes, rydan ni’n darparu storfa i stondinwyr, fel eu bod nhw’n gallu cadw eu pethau gwerthfawr yno dros nos. Yn amlwg, dydi stondinwyr ddim yn defnyddio’r storfa.”