Mae toriadau ariannol yn y brifwyl eleni wedi “gwella” awyrgylch y Maes, yn ôl Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.

“O gofio faint o arbedion sydd wedi eu gwneud eleni, dw i’n meddwl eu bod nhw wedi cael eu gwneud yn hynod o gelfydd,” meddai Prydwen Elfed Owens.

“Mae’r trefnwyr wedi gorfod torri £200,000 ond maen nhw wedi gwella teimlad y Maes,” meddai wedyn. “Maen nhw wedi creu awyrgylch gwyl, ac wedi gwneud gwell defnydd o’r maes a’r adeiladau.