Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi y bydd digwyddiad yn cael ei gynnal i roi croeso adref i’r athletwyr Cymreig a fu’n rhan o Gemau Olympaidd Llundain.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r byd aros am seremoni gloi’r Gemau pan ddiffoddir y Fflam Olympaidd i nodi diwedd y digwyddiad.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol wrthi’n trefnu dathliad ar y cyd i roi croeso adref i’r Olympiaid a’r Paralympiaid ar 14 Medi.

“Gall pawb yng Nghymru fod yn wirioneddol falch o’r hyn y mae ein hathletwyr wedi ei gyflawni fel rhan o Dîm Olympaidd Prydai,” meddai’r  Prif Weinidog.

“Mae eu penderfyniad a’u hegni yn wir wedi ysbrydoli pawb, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr i gyfanswm y medalau y mae Prydain wedi eu hennill.

“Gall y Deyrnas Unedig ei llongyfarch ei hun am ei llwyddiant wrth gynnal y Gemau Olympaidd yma, o weledigaeth greadigol gampus Danny Boyle gyda’r seremoni agoriadol i’r campau gwych eu hunain; dyma’r Gemau gorau erioed.

“Mae Cymru wedi chwarae ei rhan, o leoli gwersylloedd hyfforddi nifer o wledydd cyn y Gemau, i groesawu’r byd i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer yr un ar ddeg o gemau pêl-droed Olympaidd. Mae cyswllt Cymreig cryf gyda thîm beicio Prydain sydd gyda’r gorau yn y byd, ac fe fuon nhw’n hyfforddi rhywfaint cyn y Gemau yn y Felodrom yng Nghasnewydd.

“Dyna pam rydyn ni’n trefnu digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener, 14 Medi i groesawu’r arwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Byddwn yn rhyddhau rhagor o fanylion am y digwyddiad yn nes at yr amser, ond rwy’n galw ar bawb sy’n gallu dod i roi croeso adref haeddiannol iddyn nhw.”

Dywedodd Gweinidog Chwaraeon Cymru, Huw Lewis, bod Gemau Llundain ymysg y gorau yn hanes y Gemau Olympaid.

“Rwy’n siwr y byddent yn parhau am amser hir yng nghof ein gwlad bach ni. Mae llwyddiant ein cystadleuwyr yn rhywbeth fe allen ni gyd fod yn falch iawn ohono ac mae eu perfformiadau ysbrydoledig yn barod wedi tanio diddordeb mewn clybiau chwaraeon ar draws y wlad,” meddai.