Mae pennaeth y BBC, Mark Thompson, wedi gwadu iddo alw ar weithwyr y gorfforaeth i roi llai o sylw i gampau Tîm GB yn y Gemau Olympaidd.

Roedd e-bost at y staff gan y cyfarwyddwr newyddion, Helen Boaden, yn dweud bod Mark Thompson “yn gynyddol anhapus ein bod ni’n canolbwyntio’n ormodol ar berfformiad Tîm GB ag eithrio popeth arall”.

Ond dywedodd y gorfforaeth bod yr e-bost wedi camddehongli sylwadau Mark Thompson mewn cyfarfod yn gynharach.

“Rydw i fel pawb arall wrth fy modd ynglŷn â pherfformiad Tîm GB – ac roedd awgrymu fel arall yn anghywir,” meddai Mark Thompson.

“Mae’r BBC wedi penderfynu canolbwyntio’n bennaf ar y campau y mae’r wlad yn ei gyfanrwydd wedi bod yn eu dathlu, ac fe fyddwn ni’n parhau i wneud hynny â balchder.

“Fe allwn ni wneud hynny tra ar yr un pryd yn sicrhau bod ein rhaglenni ni’n adlewyrchu campau chwaraewyr eraill yn ystod Gemau Llundain.”

Mae’r Gemau Olympaidd wedi denu tyrfaoedd mawr i wylio’r BBC. Roedd 26.9 miliwn wedi gwylio’r Seremoni Agoriadol, a 20 miliwn arall o flaen y telibocs yn gwylio Usain Bolt yn ennill medal aur yn ras derfynol y 100m.