Gareth Bale
Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan gref ar Faes yr Eisteddfod heddiw ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Fercher nesaf yn Llanelli.

Mae Gareth Bale, Aaron Ramsey a Craig Bellamy wedi eu cynnwys, a hefyd Joe Allen sy’n debygol o gadarnhau ei drosglwyddiad i Lerpwl yn ystod yr oriau nesaf.

Daw’r gêm dair wythnos cyn i ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd ddechrau gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad Belg ar 7 Medi, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma’r garfan ar gyfer Bosnia-Herzegovina, nos Fercher am 7.45 ym Mharc y Sgarlets:

Jason Brown – Aberdeen
Boaz Myhill – West Bromwich Albion
Owain Fôn Williams – Tranmere Rovers

Darcy Blake – Caerdydd
James Collins – West Ham United
Chris Gunter – Reading
Adam Matthews – Celtic
Sam Ricketts – Bolton Wanderers
Neil Taylor – Abertawe
Ashley Williams – Abertawe

Joe Allen – Abertawe
Jack Collison – West Ham United
Andrew Crofts – Brighton & Hove Albion
David Edwards – Wolverhampton Wanderers
Joe Ledley – Celtic
Aaron Ramsey – Arsenal

Gareth Bale – Tottenham Hotspur
Craig Bellamy – Lerpwl
Simon Church – Reading
Steve Morison – Norwich
Hal Robson-Kanu – Reading
Sam Vokes – Burnley