Fe fydd darn o reilffordd yng Nghaerdydd ar gau am hyd at bythefnos yn dilyn cwymp wal gerllaw’r cledrau.
Dywedodd cwmni Network Rail y bydd y chwalfa rhwng Gorsaf Caerdydd Canolog a Stryd y Frenhines yn effeithio ar drenau i’r cymoedd yn bennaf.
Roedd y wal wedi syrthio rhwng dwy lein tua 9.20pm neithiwr, gan ollwng pum tunnell o bridd ar y cledrau. Bydd ar gau rhwng 10 a 14 diwrnod wrth i Network Rail atgyweirio.
Bydd rhaid symud y pridd, tynnu rhan arall o’r wal nad oedd yn saff, ac ail-adeiladu’r cwbl, medden nhw.
Mae wedi effeithio ar drenau o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr, Rhymni a Merthyr Tudful.
Bydd trenau o Rymni yn atal yng Nghaerffili a bysys yn cario’r teithwyr y gweddill o’r ffordd.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru nad oes gwasanaethau yn cael eu cynnal rhwng Stryd y Frenhines a Gorsaf Caerdydd Canolog ar hyn o bryd.