BoJo
Yn ôl Maer Llundain fe ddylai plant ysgol orfod ymarfer eu cyrff am ddwy awr y dydd.

Mae’r farn honno yn gwbwl groes i safbwynt Prif Weinidog Prydain, sy’n gweld dwy awr orfodol yn ymarfer mewn ticio blychau.

Aeth Boris Johnson i ysgol breifat Eton ac mae’n credu y dylai ysgolion gweddill Ynysoedd Prydain ddilyn esiampl yr ysgol honno.

“A bod yn blaen, hoffwn i weld y math o drefn yr oeddwn i’n arfer ei mwynhau – dwy awr o chwaraeon gorfodol bob dydd. Dyna’r math o beth fyddai’n wych i blant ar hyd a lled y wlad.”