Gronw ab Islwyn
Fe fyddai elusen ganser yn hoffi creu cytundeb gyda fferyllwyr ar hyd a lled Cymru i gynnig bargen ar hufen haul – mae hynny eisoes yn bod gydag un cwmni yn y De.
Tynnu sylw at beryglon canser y croen yw prif ymgyrch Tenovus ar Faes yr Eisteddfod. Wrth rannu pecynnau bach o hufen am ddim, maen nhw’n rhybuddio bod angen gofal ar bob tywydd, nid dim ond tywydd braf.
“Canser y croen yw’r un canser sy’n cynyddu fwya’ ar hyn o bryd,” meddai Gronw ab Islwyn, Ymchwilydd Posibiliadau Ariannu’r elusen.
Cydweithio
Mae Tenovus yn cydweithio â chwmni fferyllwyr yn ne Cymru i gynnig £1 o ostyngiad ar hufen haul ac mae’r elusen yn gwahodd unrhyw gwmnïau eraill sydd eisiau ymuno mewn cynllun tebyg.
Roedd yna ddiffyg gwybodaeth o hyd am effaith llosg haul, meddai Gronw ab Islwyn – yn ôl ymchwil, mae llosgi unwaith yn cynyddu’r peryg o ganser o 75%.
Mae achosion wedi mwy na dyblu yn ystod y deng mlynedd diwetha’, meddai’r elusen, ac yn un o’r canserau mwya’ cyffredin ymhlith pobol 15-34 oed.
Y cefndir
Roedd Gronw ab Islwyn yn cynnig nifer o resymau am gynnydd canser y croen:
- Y ffasiwn sy’n dweud bod croen brown yn cŵl.
- Cynnydd mewn gwyliau tramor.
- Gwisgo llai o ddillad tros y corff.
- Yr effaith ‘binj’ – bod dan do y rhan fwya’ o’r flwyddyn cyn cael sioc sydyn o haul.