Mae lladron wedi dwyn o stondinau yn y Steddfod.
‘‘Ar yr edrychiad cyntaf, yr oeddwn yn meddwl mai gwynt neu rhyw fath o anifail a ddaeth i mewn yn ystod y nos,” meddai Margaret Thomas, Arianne Jewellery.
“Ond wrth edrych ar y pabell yn fanwl mae’n amlwg mai rhywun a chyllell ddaeth i fewn yma trwy dorri i fewn. Yr oedd clustlusau a gemwaith ar lawr ym mhob man.”
Dwyn y dechnoleg fodern
‘‘Unig peth efallai yr ydym wedi colli yw iPad, ond nid ydym wedi edrych yn fanwl eto,’’ meddai Shirley Thomas, Millie’s Market.
Rydym ar ddeall hefyd bod arian wedi ei ddwyn o stondin Plaid Cymru.