Mae diffyg techneg cantorion yn yr Eisteddfod yn “drasiedi” sy’n dal y genedl yn ôl, meddai’r tenor Gwyn Hughes Jones.

Ac ar ben hynny, meddai, dyw pawb sydd trwodd i gystadleuaeth y Rhuban Glas ddim yn haeddu bod yno.

“Mae’n dangos diffyg yn y dysgu, ac mae’n drasiedi,” meddai.”Mi fasa gwell techneg a’r ffordd y maen nhw’n defnyddio cynghanedd a gair, yn troi perfformiadau pump allan o ddeg yn berfformiadau wyth, wyth a hanner neu naw.”