Jemma Lowe
O drwch blewyn llwyddodd Jemma Lowe i gyrraedd rownd derfynol y 200m dull pili pala wrth iddi orffen gyda’r wythfed amser cyflymaf neithiwr.

Bydd hi’n anelu am fedal yn y rownd derfynol heno, toc wedi 8 o’r gloch.

Roedd Ieuan Lloyd yn aelod o dîm ras gymal 4x200m Prydain a ddaeth yn chweched neithiwr yn y rownd derfynol.

Yn yr hoci brynhawn ddoe roedd  Prydain, gyda Sarah Thomas o Ferthyr,  yn fuddugol o 5 i 3 yn erbyn De Corea.

Heddiw

Mae Natasha Perdue o Abertawe yn codi pwysau yn yr adran 69 cilogram.

Mae tîm pêl-droed Prydain, dan gapteniaeth Ryan Giggs, angen gêm gyfartal heno yn erbyn Uruguay er mwyn mynd ymlaen i’r 8 olaf.

Mae Giggs wedi ymbil ar y dorf yng Nghaerdydd i beidio bwio God Save the Queen. Mae’r gic gyntaf am 7.45.