Fe fydd nifer o chwaraewyr badminton yn wynebu gwrandawiad disgyblu yn dilyn honiadau eu bod wedi ceisio colli gêm yn fwriadol yn ystod cystadleuaethau yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Yn Arena Wembley neithiwr, roedd yn ymddangos bod dwy o Tsieina, dwy o Dde Corea ac un arall o Indonesia yn ceisio chwarae’n dactegol er mwyn colli’r gêm mewn ymdrech i ddylanwadu ar y sgôr.

Mewn datganiad, mae Ffederasiwn Badminton y Byd wedi cadarnhau y bydd y chwaraewyr yn cael eu disgyblu am “beidio â gwneud eu hymdrech orau i geisio ennill gêm.”