Dai Roberts
Mae brawd y cyd-yrrwr rali ifanc o Sir Gaerfyrddin, gafodd ei ladd mewn damwain yn Yr Eidal fis diwethaf, yn siarad am ei golled ar raglan Hacio ar S4C yr wythnos hon.
Bydd Dai Roberts, sydd hefyd yn cystadlu yn y byd ralïo, yn siarad am farwolaeth ei frawd 24 oed yn y ddamwain ar ynys Sicily, ac am ei benderfyniad ef i ddychwelyd i’r gamp.
“Dydyn ni fel gyrwyr neu gyd-yrwyr ddim yn meddwl am y peryglon. Pan ‘ry’n ni’n camu mewn i’r car, ni’n meddwl ein bod ni’n invincible. Dyma beth oedd Gareth yn caru ei wneud, a byddai’n well gyda ni’n dau fynd yn gwneud rhywbeth ni’n caru,” meddai Dai am beryglon y gamp.
Mae’r byd ralio yn ganolog i fywyd y teulu Roberts. Roedd Gareth a’i bartner ralio Craig Breen, oedd yn gyrru’r car pan ddigwyddodd y ddamwain, wedi ennill teitl y World Rally Academy yn 2011.
Roedd dyfodol disglair o’i flaen ac, er y golled, mae ei frawd Dai wedi dod i’r penderfyniad anodd i barhau i gystadlu.
Er poblogrwydd ralio ymysg Cymry ifanc, mae’r gamp yn un beryglus ac yn dilyn y drasiedi yn Sicily, bydd Hacio yn siarad â Ryland James, un o swyddogion yr MSA (Motor Sport Association) am y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau diogelwch cystadleuwyr y gamp.
Bydd Hacio yn dechrau am 10yh heno ar S4C