Ruth Jones sy'n chwarae Nessa yn y gyfres Gavin and Stacey
Bydd ffans y rhaglen gomedi ‘Gavin & Stacey’ yn falch o glywed fod James Corden, seren y gyfres, wedi awgrymu fod cyfres newydd yn bosib.

Dywedodd fod y rhaglen yn “rhy dda” i beidio dychwelyd i’r sgrin fach, a’i bod hi’n “fraint” cael cyd-ysgrifennu gyda Ruth Jones, sydd hefyd yn chwarae rhan Nessa yn y gyfres.

“Mae ysgrifennu gyda Ruth yn fraint. Dw i bendant yn bwriadu gwneud mwy (o raglenni ‘Gavin & Stacey’),” meddai.

Ar hyn o bryd, mae’r actor 33 oed yn ffilmio ffilm newydd ‘Can A Song Save Your Life?’ yn Efrog Newydd.

Ond dywedodd ar Twitter neithiwr, “Yn cael llwyth o negeseuon am raglen Gavin & Stacey. Ddrwg gen i ddweud fod dim cynlluniau ar hyn o bryd ma arna’i ofn, efallai rhyw ddydd!”

Daeth y gyfres, sy’n olrhain hanes teulu o’r Barri a theulu o Essex, i ben dair blynedd yn ôl ar ôl i’r ddau brif gymeriad, Gavin a Stacey, gyhoeddi eu bod yn disgwyl babi.