Mae Estyn, y corff sy’n gyfrifol am arolygu ysgolion, wedi cyhoeddi adroddiad damniol i wasanaethau addysgol Cyngor Sir Ynys Môn heddiw.

Yn ôl Estyn, mae ansawdd yr addysg yn anfoddhaol gyda safonau yn is na’r disgwyl ym mhob rhan o’r gwasanaeth addysg. Mae’r adroddiad yn argymell bod angen “mesurau arbennig” ar yr awdurdod.

Dywed yr adroddiad bod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn annerbyniol o isel; bod y gwasanaeth gwella ysgolion yn annigonol; nad oes digon o gynnydd wedi’i wneud i gynllunio ar gyfer lleoedd mewn ysgolion.

Mae ’na bryder hefyd nad yw’r awdurdod wedi ysgogi gwelliannau mewn meysydd o danberfformio, ac nad yw ysgolion a swyddogion wedi cael eu dwyn i gyfrif. Mae hefyd yn dweud bod y cyngor wedi bod yn rhy araf yn mynd i’r afael â’r diffyg cynnydd.

‘Heriau niferus’

Dywed yr adroddiad: “Er gwaethaf y dylanwad cadarnhaol ar sefydlogrwydd y cyngor, nid yw arweinwyr corfforaethol wedi deall nac ymgysylltu’n llawn â’r heriau niferus sy’n wynebu addysg yn Ynys Môn eto, fel tanberfformio mewn ysgolion, cost lleoedd dros ben a lefelau presenoldeb isel dysgwyr.”

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd prif weithredwr Cyngor Ynys Môn Richard Parry Jones ei fod yn cefnogi’n llawn yr argymhellion sydd wedi cael eu gwneud gan Estyn a’u bod yn hyderus eu bod yn cymryd camau breision.

Ym mis Mawrth 2011 cafodd pum comisiynydd eu penodi gan Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb am Gyngor Ynys Môn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y bydd hyn yn dirwyn i ben cyn bo hir.