Ysgol Llanwnnen
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion yn trafod cynnig y bore ma i gadw dwy ysgol wledig ar agor yn hytrach na chreu ysgol ardal, tra bod adolygiad yn digwydd i ad-drefnu ysgolion yng Ngheredigion.
Roedd Adran Addysg Cyngor Ceredigion wedi ffafrio cau ysgolion Llanwnnen a Llanwenog a chreu ysgol ardal yng Nghwrtnewydd, ond ers yr etholiad ym mis Mai mae’r Arweinydd newydd, Ellen ap Gwyn, wedi gofyn am adolygiad o raglen ad-drefnu ysgolion y sir.
Yn y cyfarfod y bore ma mae Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion, Eifion Evans, yn argymhell y Cabinet i beidio gwneud penderfyniad ar ysgolion Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd tan y bydd yr adolygiad wedi cael ei gwblhau gan ymgynghorydd addysg annibynnol.
Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn yr hydref, a dywed Adran Addysg y Cyngor y bydd “casgliadau’r adolygiad yn gynsail i raglen waith yr Adran am y pum mlynedd nesaf.”
Mae Cyngor Ceredigion wedi clustnodi £2.2m ar gyfer codi’r ysgol ardal.