Bachgen yn sefyll ger adfeilion gorsaf yr heddlu yn Azaz i'r gogledd o Aleppo
Mae ’na adroddiadau am ragor o wrthdaro yn ninas Aleppo yn Syria.

Mae’r trais yno wedi parhau am 11 diwrnod wrth i’r frwydr am y ddinas fasnachol, sydd â 3 miliwn o drigolion, barhau.

Mae’n debyg bod ’na wrthdaro rhwng gwrthryfelwyr a lluoedd y llywodraeth yn Sakhour i’r gogledd ddwyrain o Aleppo.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae oddeutu 200,000 o bobl wedi ffoi o Aleppo yn ystod y cyfnod o drais. Dywed ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd Twrci bod y ddinas wedi ei difrodi gan y bomiau.