Tour de France
Yn dilyn buddugoliaeth Bradley Wiggins ddoe mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am gynnal cymal o’r Tour de France yng Nghymru.
“Gobeithio y bydd buddugoliaeth wych Bradley, sydd wedi codi proffil seiclo ym Mhrydain, yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddwn ni’n gallu denu cymal i Gymru,” meddai Peter Black, llefarydd y blaid ar Dreftadaeth.
“Mae Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer cymal o’r Tour de France, rhwng Eryri, Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Cambria. Mae gan Gymru’r lleoliadau i roi cefndir mawreddog a heriol i athletwyr gorau’r byd.”
Mae’r Tour de France yn ymweld â gwledydd cyfagos yn aml, ac yn 2007 dechreuodd y daith yn Llundain ac yn 1998 yn Nulyn.
Dywed Peter Black fod Cymru wedi profi ei bod yn gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr megis Cwpan Rygbi’r Byd a Chwpan Ryder, ac y byddai cynnal cymal o’r Tour de France yn dod â £115m i Gymru.
Roedd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gwneud addewid yn eu maniffesto yn 2011 y byddai Cymru yn gwneud cais i gynnal cymal o’r Tour de France.
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn aelod blaenllaw o dîm Sky ond ni chystadlodd yn y Tour eleni am ei fod am ganolbwyntio ar y Gemau Olympaidd.