Mae gwaith ymchwil newydd gan academyddion o Brifysgol Bangor yn awgrymu bod gweld delweddau o fwyd yn tueddi i wneud i bobol fwyta mwy.

Yn ôl yr astudiaeth, mae rhan o’r ymennydd sy’n ymateb i luniau o fwyd yn dylanwadu ar faint o fwyd mae’r person hwnnw yn tueddi i’w fwyta.

Roedd hynny yn ei dro yn arwain at fwyta mwy o fwyd nag oedd y person wirioneddol ei angen. Felly nid chwant bwyd oedd yn arwain pobl at orfwyta, ond yn hytrach diffyg disgyblaeth meddyliol, medden nhw.

“Mae gan yr astudiaeth yma oblygiadau pwysig ynglyn â deall sut mae pobl yn mynd yn ordew,” meddai Dr John Parkinson, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.

“Sut mae helpu unigolion sy’n gorfwyta? Gallwn leihau nifer y ddelweddau deniadol o fwyd y gall pobl eu gweld – rhywbeth mae’r Llywodraeth yn ceisio’i wneud ar y funud gyda phecynnu sigaréts.”

Arianwyd yr astudiaeth gan Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru. Cafodd y gwaith ymchwil ei wneud ar y cyd gan Brifysgolion Bangor, Caerdydd, Bryste a Exeter.