Bydd un o lawysgrifau mwyaf hanesyddol Cymru yn cael ei arddangos yn y wlad heddiw am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd.

Mae llawysgrif Cyfraith Hywel Dda yn dyddio nôl i’r 1300au ac yn un o’r llawysgrifau cyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg.

Cafodd y llawysgrif ei werthu mewn ocsiwn Sotheby’s i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am £541,250 yn gynharach mis yma.

Bydd y llawysgrif yn cael ei arddangos yn ystafell Hengwrt y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Fe brynwyd y llawysgrif gan gymhorthdal o £467,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda gweddill y gyllideb yn dod o goffrau’r Llyfrgell ei hun a grant gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y llawysgrif i’w weld yn gyhoeddus tan Awst 31 ond bydd yn cael ei rhoi o’r neilltu er mwyn gwneud gwaith cadwraeth gan gynnwys ail-rwymo a digido.

Mae’r llyfr yn manylu ar gyfraith arloesol a luniwyd gan Hywel Dda, gan gynnwys hawliau i ferched.