Castell yn Sain Ffagan
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi cyhoeddi buddsoddiad o £11.5 miliwn, ei ddyfarniad grant mwyaf erioed yng Nghymru, i helpu Amgueddfa Cymru i ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i adrodd straeon o fywyd pobl yng Nghymru dros gyfnod o dros 200,000 o flynyddoedd.

Nod y prosiect, Creu Hanes – Making History, yw adeiladu ar boblogrwydd Sain Ffagan fel hoff atyniad ymweld Prydain ac i gyfuno cryfderau’r amgueddfa awyr agored gyda rhai amgueddfa gonfensiynol. Bydd yn creu profiad ymweld newydd cyffrous gan integreiddio casgliadau cenedlaethol archeoleg a hanes cymdeithas gyda’i gilydd mewn amgueddfa awyr agored am y tro cyntaf unrhyw le.

Poblogaidd

Sain Ffagan yw’r amgueddfa awyr agored gyda’r ail nifer fwyaf o ymwelwyr yn Ewrop ac atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru gyda dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae hefyd y darparwr mwyaf yng Nghymru o ddysgu tu allan i’r dosbarth gyda 360,000 o ymwelwyr teuluol ac 85,000 o ymweliadau addysgol ffurfiol.

Bydd y Pentref Celtaidd presennol yn cael ei gyfnewid ag ail-gread o setliad Oes Haearn Bryn Eryr ym Môn, gan gynnwys pobl ifanc o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf a disgyblion ysgol yn y rhaglen. Bydd yr ail-gread o Lys Rhosyr, un o lysoedd tywysogion Gwynedd, yn creu cyfle am leoliadau a phrentisiaethau i hyfforddeion, tra bydd gwyddgrug o’r Oes Efydd yn cael ei chreu trwy weithio gyda phobl ifanc ar y cynllun Dug Caeredin.