Cyngor Sir Benfro
Bydd yn rhaid i Gyngor Sir Benfro dderbyn cyfarwyddiadau bwrdd arbennig o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Addysg  Leighton Andrews, yn dilyn pryder am ddiogelwch plant yn y sir.

Mewn datganiad, dywedodd Leighton Andrews nad oedd ganddo ffydd yn rhai o swyddogion y cyngor ac y byddai Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro “o hyn ymlaen, yn adrodd i mi ac i fy swyddogion.”

Ym mis Awst y llynedd cafodd adroddiad damniol ei gyhoeddi am fethiant Cyngor Sir Benfro i ddiogelu plant.

Ers hynny mae dadlau wedi bod ynglŷn ag ymateb y cyngor i’r honiadau.

Mae’r Gweinidog Addysg eisoes wedi bod yn feirniadol o rôl Arweinydd Cyngor Sir Benfro, y Cynghorydd Jamie Adams, yn y broses.

Dywedodd Leighton Andrews ei fod wedi ysgrifennu llythyr at arweinydd Cyngor Sir Benfro ar Fehefin 12, “Yn yn llythyr hwnnw,” meddai, “cafodd wybod bod gennym bryderon difrifol o hyd am drefniadau diogelu plant mewn gwasanaethau addysg yn y sir a’n bod yn ystyried rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod.

“Nid yw’r canfyddiadau yn adroddiadau Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro a’r arolygiaethau yn gwneud fawr ddim i leddfu’n pryderon.

“Nid oes unrhyw beth a ddywedwyd gan yr Arweinydd yn y llythyr a anfonwyd ganddo i ateb ein llythyr ni, nac yn y neges e-bost a anfonodd atom wedyn, sy’n ein darbwyllo nad yw’r Bwrdd a’r arolygiaethau yn llygad eu lle.”

Fe fydd rhaid i’r cyngor ddilyn cyfarwyddiadau Graham Jones, Cadeirydd Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro.

Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro, Jamie Adams, wedi dweud fod yr awdurdod lleol yn gwneud cynnydd da ar y mater.