Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd am lifogydd lleol posib yng ngogledd Cymru gan fod disgwyl rhagor o law trwm dros y dyddiau nesaf.
Fe fydd glaw trwm a pharhaus ar draws y gogledd ddydd Mawrth gyda rhai cawodydd trwm yn bosib ddydd Mercher.
Fe allai hyn arwain at broblemau yn lleol oherwydd dŵr ar wyneb y ffyrdd.
Mae’r asiantaeth yn monitro’r tywydd a lefelau afonydd ac fe fydd yn cyhoeddi rhybuddion pellach os oes angen.
Dylai pobl wrando ar ddarllediadau am unrhyw drafferthion ar y ffyrdd neu lifogydd posib.
Gellir cael gwybodaeth ar wefan yr asiantaeth neu drwy ffonio’r llinell ffôn 845 988 1188.