Lowri Morgan
Bydd naw o bobl amlwg yn eu meysydd yn graddio’n anrhydeddus o Brifysgol Abertawe yn ystod seremonïau graddio’r sefydliad yr wythnos yma.

Dywedodd Prifysgol Abertawe ei bod yn cyflwyno naw Gradd Anrhydeddus “i ffigurau o deilyngdod eithriadol a chanddynt arwyddocâd arbennig i Abertawe”.

Dyma’r flwyddyn gyntaf y bydd y Brifysgol, fel sefydliad sy’n dyfarnu graddau ei hun, yn cyflwyno Graddau Anrhydeddus, yn hytrach na’i Chymrodoriaethau traddodiadol.

Ymhlith y rhai fydd yn cael eu gwobrwyo bydd y gyflwynwraig Lowri Morgan; Valerie Ganz, y peintiwr a anwyd yn Abertawe; cyn uwch ddarlithydd y brifysgol Val Lloyd a chadeirydd clwb pêl-droed Abertawe Huw Jenkins.

Bydd y cyn Aelod Seneddol Nigel Evans ac AS Dr Hywel Francis hefyd yn derbyn gradd DLitt Anrhydeddus.

Un arall i dderbyn anrhydedd gan y brifysgol yw Frau Herta Müller, un o awduron blaenllaw Ewrop ac mae’n un o 12 menyw yn unig i ennill Gwobr Nobel mewn Llenyddiaeth erioed.

Bydd Is-gomander y Llynges Frenhinol a chyfrannwr i’r diwydiant pŵer niwclear am 61 o flynyddoedd, Thomas Conway, yn ogystal â’r Arglwydd John Sewel CBE, a fu’n gynorthwyydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn gynnar yn ei yrfa, yn derbyn anrhydeddau nes ymlaen yn yr wythnos.

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, “Rydym wrth ein bodd eleni ein bod yn gallu anrhydeddu ffigurau nodedig o fyd gwleidyddiaeth, diwylliant, gwyddoniaeth a chwaraeon a’u croesawu i’n Cymrodoriaeth Anrhydeddus hyglod.”