Leighton Andrews
Mae adroddiad yn dweud y gallai dyfodol tymor hir Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fod mewn perygl os nad yw’n uno gyda dwy brifysgol arall.

Dywed yr Athro Steve Smith y dylai Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, sef yr hen UWIC, uno gyda phrifysgolion Morgannwg a Chasnewydd  er mwyn creu prifysgol fawr yn y de-ddwyrain a diogelu eu dyfodol. Dywed yr Athro Smith nad yw parhau gyda’r sefyllfa bresennol o gael tair prifysgol ar wahân yn opsiwn.

Roedd yr adroddiad wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ac mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi datgan ei gefnogaeth i uno’r tair prifysgol.

Yr wythnos ddiwethaf pleidleisiodd penaethiaid Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn erbyn uno gyda Chasnewydd a Morgannwg ac mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau wedi rhybuddio y bydd y penderfyniad yn arwain at “leihad sylweddol” yn narpariaeth y brifysgol.

“Ni ddylai bwrdd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd chwarae politics gyda swyddi’r gweithwyr,” meddai Bethan Thomas o’r undeb.

“Bydd ei benderfyniad yn cael effaith negyddol ar staff, myfyrwyr a’r gymuned addysg uwch.

“Mae UCU Cymru yn galw ar Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd i ddod at eu coed a newid y penderfyniad gwrthnysig yma mewn perthynas ag amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg yn ne ddwyrain Cymru,” ychwanegodd Bethan Thomas.

Mae Golwg360 yn disgwyl ymateb gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.