Yn ôl ffigyrau’r cyfrifiad diweddaraf a gafodd ei ryddhau bore ma, mae poblogaeth Cymru wedi mynd dros 3 miliwn.

Dywed swyddogion fod nifer y bobl sy’n byw yng Nghymru wedi cynyddu 5.3% i 3.06 miliwn o fewn degawd.

Hwn yw’r cynnydd mwyaf mewn unrhyw ddegawd ers 1921 a’r ffigwr uchaf erioed.

Mudo yw achos tua 90% o’r cynnydd – gan gynnwys pobl yn symud i Gymru o lefydd eraill ym Mhrydain.

Caerdydd yw’r awdurdod lleol mwyaf o hyd gyda phoblogaeth o 346,100 – cynnydd o 11.6%  mewn deng mlynedd.

Cynyddodd poblogaeth pob un o ardaloedd cyngor sirol, ar wahân i Flaenau Gwent, a welodd gostyngiad o 0.3%.