Mae’r BBC wedi talu mwy na £16 miliwn am rai o enwau mawr y byd teledu yn ystod 2011/12, yn ôl cyfrifon y gorfforaeth.
Mae’n ostyngiad o’r £21 miliwn gafodd ei wario yn y flwyddyn flaenorol.
Nid yw’r BBC yn datgelu cyflogau personol, er gwaetha galwadau ar y gorfforaeth i wneud hynny, ond mae’n rhestru cyflogau yn ôl bandiau o £500,000 i £750,000, £750,000 i £1 miliwn ac £1 miliwn i £5 miliwn.
Yn ôl cyfrifon gafodd eu cyhoeddi heddiw mae 16 o bobl wedi rhannu cyfanswm o £16.4 miliwn yn 2011/12.
Ymhlith y rhai sydd, mae’n debyg, yn ennill mwy na £1 miliwn mae cyflwynydd Match of the Day, Gary Lineker.
Yn ôl adroddiadau, mae Graham Norton a Jeremy Paxman ymhlith y rhai sydd wedi cael gostyngiad yn eu cyflogau.
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC Mark Thompson bod y gorfforaeth wedi torri costau ac wedi llwyddo i gyflwyno “rhaglenni o safon” ar yr un pryd.