Mae dros hanner oedolion Cymru yn amau gwerth y gemau Olympaidd i’r wlad yn ôl arolwg barn sydd newydd ei gyhoeddi.
Fe wnaeth cwmni Beaufort Research o Gaerdydd holi dros 1,000 o oedolion o bob cwr o’r wlad ac fe ddywedodd 52% eu bod yn credu na fuasai Cymru yn elwa o gwbl o’r gemau yn Llundain.
Roedd y canran yn uwch o lawer yn y gogledd gyda 60% yn credu na fuasai yna fudd o gwbl.
Ar y llaw arall roedd 38% yn credu y buasai yna rhywfaint o fudd a 7% yn credu y bydd Cymru yn ennill llawer oherwydd y gemau.
Mae’r mwyafrif sydd yn credu y bydd Cymru yn elwa rhywfodd yn byw yng Nghaerdydd, y dwyrain, y cnaolbarth a’r gorllewin ac yn tueddu i fod rhwng 16 a 24 oed.
Fe fydd rhai o gemau pêl droed y gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.