Mae cwmni diogelwch G4S yn amcangyfrif y bydd yn colli hyd at £50m o bunnau eleni am ei fod wedi methu cyflogi digon o weithwyr diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd fydd yn dechrau yn Llundain ymhen bythefnos.
Bydd 3,500 o filwyr yn gwneud y gwaith ar ôl i’r cwmni gyfaddef nad oes modd bellach cyflogi a hyfforddi yr oll o’r 10,400 o weithwyr ar gyfer y gemau yn unol â’r cytundeb gafodd ei arwyddo yn 2010.
Roedd y cytundeb gwreiddiol i gyflogi 2,000 o weithwyr dioglewch am £86m ond mae’r ffigyrau bellach wedi cynyddu i gyflogi 10,400 o weithwyr am £284m.
Mae’r cwmni wedi datgan y bore yma eu bod yn “gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan y lluoedd arfog” ac yn “derbyn eu cyfrifoldeb am y gwariant ychwanegol”.
“Mewn partneriaeth efo’r lluoedd arfog a Locog, rydym yn gweithio bob awr o’r dydd i adfer y sefyllfa”, meddai Nick Buckles, Prif Weithredwr G4S. “Rydym yn benderfynol y byddwn, gyda’n gilydd, yn sicrhau gemau llwyddianus a diogel.”
Mae aelodau seneddol o bob plaid eisiau gwybod yn union pam fod y cwmni wedi methu llogi digon o weithwyr ac mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin yn bwriadu holi prif swyddogion G4S, dwy adran o’r llywodraeth a Locog, trefnwyr y gemau, am yr helynt ym mis Medi.
Bydd Nick Buckles yn ymddangos gerbron Pwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin dydd Mawrth ac mae’r cadeirydd, Keith Vaz, eisoes wedi dweud y bydd ganddo nifer o gwestiynau i’w hateb.
Mae cadeirydd Llundain 2012, yr Arglwydd Coe wedi gwadu bod y sefyllfa yn golygu bod y Gemau Olympaidd “mewn creisis.”
“Mae cynnal y gemau yn brosiect saith mlynedd ac mae pob dydd yn sialens,” meddai.