Urdd Gobaith Cymru
Bydd Urdd Gobaith Cymru’n cynnal digwyddiad aml chwaraeon yng Nghaerdydd dros y penwythnos am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r trefnwyr yn disgwyl tua 1,300 o athletwyr addawol i fynychu’r digwyddiad.
Yn dilyn y seremoni agoriadol yn Neuadd Dewi Sant y brifddinas heno, dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, “Digwyddiadau fel hyn fydd yn sicrhau ein bod ni yn cael y gorau o Gemau Olympaidd 2012, ac yn gallu cynnig etifeddiaeth chwaraeon a gwirfoddoli hirdymor.
Fel y llynedd, bydd Gemau Cymru’n cynnwys gymnasteg, nofio, canŵio, treiathlon, pêl-droed i ferched, rygbi 7-bob-ochr, pêl-rwyd, boccia ac athletau.
Yn ogystal, bydd tri maes newydd sef hwylio, rhwyfo dan do a sboncen.
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym wastad wedi rhoi llwyfan cenedlaethol i’n heisteddfodwyr serennu, ond nawr gallwn wneud yr un peth ar gyfer sêr chwaraeon y dyfodol.
“Mae un neu ddau oedd yn cystadlu llynedd wedi eu gweld gan sgowtiaid talent yn ystod y gystadleuaeth a bellach yn cynrychioli eu gwlad, sydd yn anhygoel.
“Rwyf yn ffyddiog y bydd safon y cystadleuwyr cystal eto eleni.”
Mae amserlen cystadlaethau’r penwythnos i’w gweld yn urdd.org/gemaucymru