Bellamy
Mae Mark Hughes ar drywydd Craig Bellamy unwaith eto, yn y gobaith o’i ychwanegu i’w garfan yn Queen’s Park Rangers.

Mae’r ymosodwr 33 oed wedi chwarae i Sbarci yn Manchester City a Blackburn, yn ogystal â Chymru.

Yn awr, yn ôl adroddiadau papur newydd yn Llundain, mae’n ystyried ymuno gyda Mark Hughes unwaith yn rhagor.

Roedd clwb pêl-droed Caerdydd wedi ceisio arwyddo Bellamy.

Er bod rheolwr Lerpwl Brendan Rodgers yn awyddus i Bellamy aros yn Lerpwl, mae’n cyfaddef y byddai cynning gan Hughes yn gallu ei ddenu ymaith.

‘‘Mae’n chwaraewr sy’n gweithio’n galed tu hwnt ac yn chwarae gydag angerdd bob tro. Byddwn wrth fy modd pe bai yn aros,’’ meddai Rodgers.

Gan mai blwyddyn sydd ar ôl o gytundeb Bellamy gyda Lerpwl, mae symud yn bosibilrwydd gref.

Yn ogystal â Bellamy, mae QPR yn obeithiol o sicrhau seren Blackburn Junior Hoilett i’w carfan.