Yr wythnos hon roedd S4C yn cadarnhau wrth gylchgrawn Golwg eu bod yn cyflogi arbenigwr arbed arian o Lundain i edrych ar daliadau i weithwyr teledu, megis dynion camera a chyfarwyddwyr.

Nôl ym mis Mawrth roedd y Prif Weithredwr newydd Ian ‘Tish’ Jones  yn dweud mewn araith ei fod yn “ystyried comisiynu adroddiad i edrych ar y cyfraddau sy’n cael eu talu i weithwyr ac am ddefnydd adnoddau yn y sector ac hefyd ail edrych ar dariffau… yr ydym yn barod i’w talu am gynyrchiadau a chostau cynhyrchu.”

Mae S4C wedi cadarnhau wrth Golwg bod y gwaith o lunio’r adroddiad a chanfod arbedion wedi ei roi yn nwylo Mike Fegan, arbenigwr ariannol sy’ wedi gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ac ITV.

TAC yn tampan

Yn ôl Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru mi fydd unrhyw ymgais gan S4C i ostwng tâl cyfryngis yn rhwym o arwain at rwgnach a chonan.

“Mi wnes i godi’r peth efo [S4C],” meddai Iestyn Garlick, “a dweud: ‘Os ydach chi’n mynd i fynd ar ôl cyfraddau, mi’r ydach chi’n agor can of worms sydd yn mynd i dynnu yr undebau i mewn i bethau, BECTU.

“Mi fydd yna bobol yn gweiddi o dop crats yn bob man os wyt ti’n dechrau potsian efo cyfraddau.”

Yr holl hanes a chyngor i S4C ar sut i arbed £10 miliwn ar gostau ôl-gynhyrchu yn Golwg yr wythnos hon.